Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Rhagfyr 2018
Amser:
09.31 -
10.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5070
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn o ystyried bod y ddeiseb wedi derbyn dros 5,000 o lofnodion; ac yn y cyfamser
· ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn:
o am fanylion canlyniad y gweithdy a drefnwyd gan Fwrdd Wroleg Cymru ar 12 Tachwedd;
o am asesiad o argaeledd presennol sganiau mpMRI cyn-fiopsi i gleifion yng Nghymru;
o pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fabwysiadu sganiau mpMRI a sicrhau eu bod ar gael ledled Cymru;
o pa gefnogaeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei darparu i fyrddau iechyd pe bai NICE yn adolygu ei ganllawiau i argymell defnyddio sganiau mpMRI cyn-fiopsi; a
o ph'un a yw'n ystyried bod ateb interim priodol a fyddai'n galluogi mynediad at sganiau mpMRI i gleifion ledled Cymru, megis drwy alluogi mynediad at gyfleusterau preifat ar gyfer sganiau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:
Trafododd y Pwyllgor grynodeb o'r ymatebion a gafwyd gan fyrddau iechyd yng Nghymru yn ymwneud â manylion am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i bobl ag anhwylder personoliaeth ffiniol yn eu hardaloedd. Cytunodd yr Aelodau i ofyn am farn y deisebydd ar y gyfres lawn o ymatebion a ddarparwyd gan y byrddau iechyd ac, yn sgil y rhain, gofyn iddo amlinellu unrhyw ffyrdd penodol, yn ei farn ef, y gellir gwella'r gwasanaethau neu'r gefnogaeth a ddarperir ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ffiniol.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae cwmni yn ei etholaeth yn gwneud aelodau prosthetig drwy argraffu 3D.
Trafododd y Pwyllgor ymateb gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
o ofyn am ragor o fanylion am yr adolygiad o fanyleb y Gwasanaethau Adsefydlu Trychedigion a Phrosthetig, gan gynnwys y broses, yr amserlenni a rhestr o'r rhanddeiliaid y mae'n bwriadu ymgynghori â hwy; a
o cheisio rheswm llawn y tu ôl i'r cyfyngiadau o fewn y fanyleb bresennol ar gyfer Gwasanaethau Adsefydlu Trychedigion a Phrosthetig ar gyfer aelodau isaf hamdden; ac
o i Lywodraeth Cymru ystyried sicrhau bod cyllid penodol ar gael i blant allu cael gafael ar aelodau prosthetig chwaraeon arbenigol; a
o pha rwystrau sydd i ddefnyddio argraffu 3D ar gyfer cynhyrchu aelodau prosthetig.
Trafododd y Pwyllgor ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
· ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar:
o arferion cyfredol mewn perthynas â sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rhan yn y broses o gomisiynu gwasanaethau a llywio'r broses honno; a
o p'un a yw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn effeithiol wrth sicrhau cyfranogiad pobl ifanc wrth gomisiynu gwasanaethau lleol; a
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i gadw golwg ar y ddeiseb hyd nes y cyhoeddir y fframwaith diwygiedig ar bresenoldeb mewn ysgolion y flwyddyn nesaf, cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys i ofyn am fanylion am unrhyw gynigion i gydnabod y Brimmon Oak fel rhan o'r ffordd osgoi newydd yr ymgynghorwyd arnynt yn lleol.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ddarparu manylion cyswllt y deisebydd i'r tîm sy'n ystyried dyluniadau posibl ar gyfer y bont newydd. Yn sgil yr ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth y bydd cynnig Pont Bendigeidfran yn cael ei asesu fel rhan o'r gwaith dylunio ar gyfer y bont, cytunodd y Pwyllgor hefyd i gau'r ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarferiad asesu stoc a statws parhaus y bysgodfa.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebwyr i'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.
Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd. Daeth yr Aelodau i'r casgliad y dylai pob Awdurdod Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid adolygu cynllun datblygu lleol ai peidio ac, ar y sail honno, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodrath Leol a Gwasaneathau Cyhoeddus, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a'r deisebydd, a chytunodd i: